Ysgol Gymraeg yw Ysgol Gymraeg Henllan gyda disgyblion o bentrefi Henllan, Trefnant, Llanelwy, Llannefydd, Bylchau a Dinbych yn mynychu’r ysgol. Addysgir y disgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6, gan gyflwyno Saesneg fel pwnc ym Mlwyddyn 3.
Yr ydym yn ymfalchïo yn yr adeilad a thiroedd yr ysgol – maent o’r safon uchaf posibl yn dilyn gwariant moderneiddio sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cydweithrediad rhieni a gofalwyr yn bwysig dros ben er mwyn sicrhau cyfleoedd addysgol gwerth chweil i'n disgyblion. Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan yn llwyddo i'r safon uchaf yma yn addysgol, yn gymdeithasol ac emosiynol gan fagu hyder, annibynniaeth a brwdfrydedd mewn llwyddiant. Ysgol Gymraeg Henllan is a Welsh school with pupils from the villages of Henllan, Trefnant, St Asaph, Llannefydd, Bylchau and Denbigh attending the school. Pupils are taught through the medium of Welsh from Nursery Class to Year 6, introducing English as a subject in Year 3. We are proud of the school building and grounds - they are of the highest possible standard following significant modernization expenditure over recent years. The cooperation of parents and carers is extremely important in order to ensure worthwhile educational opportunities for our pupils. Pupils at Ysgol Gymraeg Henllan succeed to the highest standard here educationally, socially and emotionally, fostering courage, independence and enthusiasm for success. |